Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2018
Amser:
08.30 -
09.08
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 3 Hydref 2018 -
· Dadl ar ddeiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd Rheolwyr Busnes i ddychwelyd i'r mater ar ôl toriad yr haf.
Pleidleisiodd Rheolwyr Busnes ar a ddylid cynnwys Rheol Sefydlog 25A annibynnol ynteu diwygio Rheol Sefydlog 27. Penderfyniad y mwyafrif oedd diwygio Rheol Sefydlog 27.
Cytunodd Rheolwyr Busnes i siarad â'u grwpiau a rhoi gwybod i'r Llywydd y tu allan i'r Pwyllgor Busnes ynghylch a fydd eu haelodau yn cefnogi'r newid i Reol Sefydlog 27 pan gyflwynir cynnig yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.
Nododd Rheolwyr Busnes y papur a chytunodd i ymgynghori â Chomisiwn y Gyfraith ar y weithdrefn amlinellol. Cytunodd Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau ar y materion a godwyd a dychwelyd i'r mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, ynghyd ag unrhyw ymateb a geir gan Gomisiwn y Gyfraith.
Nododd Rheolwyr Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am system rhybuddio cynnar ar gyfer cywiro Offerynnau Statudol ac ar Femoranda Cydsyniad Offeryn Statudol, a gwnaethant drafod y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â chraffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 fel y'u nodir yn y papur
Nododd Rheolwyr Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran newidiadau posibl i amserlen y Cynulliad a chytunwyd ar barhau i adolygu'r sefyllfa. Yn dilyn cynnig gan Arweinydd y Tŷ, cytunodd Rheolwyr Busnes mai yn nhymor yr hydref y dylai'r aelodau Llafur ychwanegol gael eu hethol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Penderfynodd Rheolwyr Busnes ar ddychwelyd i'r mater yn nhymor yr hydref.